Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (202)v2 |
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd (45 munud)
|
2 Cwestiynau i’r Gweinidog Tai ac Adfywio (45 munud)
|
3 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynghylch yr Ymchwiliad i rôl Cymru yn y broses o wneud penderfyniadau yn yr UE (60 munud) NDM5518 David Melding (Canol De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar ei ymchwiliad i rôl Cymru yn y broses o wneud penderfyniadau yn yr UE, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Mawrth 2014.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Ymateb Llywodraeth Cymru [Saesneg yn unig]
|
4 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch gwaith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (60 munud) NDM5519 David Rees (Aberafan)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar waith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mawrth 2014.
Noder: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Mai 2014.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
|
5 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) NDM5520 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd yr economi ddigidol, ac yn datblygu seilwaith i'w chynnal.
2. Yn gresynu at y ffaith bod ardaloedd yng Nghymru o hyd lle nad oes fawr ddim darpariaeth band eang neu 3G, os o gwbl, a'r effaith andwyol y mae hyn yn ei chael ar fusnesau ac unigolion.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi manylion ynghylch sut y bydd y £12 miliwn o’r cyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU ar gyfer Cyflymu Cymru yn cael ei ddyrannu.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn gresynu at y ffaith mai Cymru sydd â’r gyfran fwyaf o safleoedd mewn mannau gwan posibl ac mai yng Nghymru y mae’r argaeledd isaf o ran gwasanaethau band eang cyflym iawn o’i gymharu â gweddill y DU.
Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn gresynu at y penderfyniad i gynnig gwasanaeth band eang Ffeibr i’r Cabinet yn hytrach na gwasanaeth Ffeibr i’r Safleoedd.
Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cynlluniau ar waith i gyflwyno band eang cyflym iawn i’r 4% o safleoedd na fyddant yn cael eu gwasanaethu gan ymrwymiadau presennol.
Gwelliant 4 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi ac annog busnesau i fanteisio ar y cyfleoedd y mae cysylltedd digidol yn eu cynnig.
Gwelliant 5 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i gynllun cyflwyno er mwyn cael darpariaeth 4G lawn ledled Cymru.
Gwelliant 6 - Aled Roberts (North Wales)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i roi diwedd ar honiadau camarweiniol gan gwmnïau band eang sy’n gweld cwsmeriaid yng Nghymru yn talu am wasanaeth cyflym nad ydynt yn gallu ei gael. |
Cyfnod Pleidleisio |
6 Dadl Fer (30 munud) NDM5517 Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)
Atebolrwydd rheolwyr GIG Cymru
Archwilio rôl a chyfrifoldeb byrddau a swyddogion y GIG o ran cyflenwi gofal diogel ac effeithiol yng Nghymru. |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 10 Mehefin 2014